Cyflwynodd y DU ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran yn ymwneud â chyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol pan ddaeth y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) i rym ar 1 Hydref 2006. Mae’r Rheoliadau’n ymdrin â sawl agwedd ar fywyd gwaith, o recriwtio i ymddeol a phensiwn. Yn gyffredinol, mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn person ar sail eu hoedran. Fodd bynnag, mae rhai eithriadau.
Am chwe blynedd, roedd y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN) yn aelod gweithgar o’r Grŵp Cynghori ar Oedran, gan gymryd rhan mewn trafodaethau a pharatoadau gyda’r Adran Masnach a Diwydiant a chyrff eraill ar drosi Cyfarwyddeb Triniaeth Gyfartal 2000 yr UE (y mae’r Rheoliadau wedi’u seilio arni) i gyfraith yn y DU.
Noddir yr adran hon o wefan y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae’n darparu canllawiau ar wahanol elfennau o’r Rheoliadau a sut mae cyflwyno hawliad. Mae cymhorthion sy’n galluogi defnyddwyr i gyflwyno cwestiynau am y ddeddfwriaeth: gofyn am farn gyfreithiol ar eu gobeithion o gyflwyno hawliad llwyddiannus; a chwestiynau enghreifftiol i gynorthwyo wrth ystyried beth i’w ofyn mewn holiadur statudol. Mae’r safle hefyd yn darparu cwestiynau cyffredin a dolenni defnyddiol i wefannau eraill sy’n darparu gwybodaeth debyg. Mae rhai o’r cymhorthion ar gael yn Saesneg yn unig ac mae’r dolenni defnyddiol i wefannau Saesneg. Dim ond yn Saesneg y mae’r straeon newyddion sy’n ymwneud â deddfwriaeth ac achosion gwahaniaethu ar sail oedran ar gael hefyd.
Amcan yr adran hon o wefan TAEN yw rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig. Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, nid yw’n gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu gyngor proffesiynol arall.
Ein canllawiau diweddaraf ar Reoliadau Oedran
Gofynnwch gwestiwn, gweld beth sydd angen i chi ei wneud i gyflwyno hawliad neu fwrw golwg ar gwestiynau enghreifftiol i’ch cynorthwyo i ystyried beth ddylech chi ofyn wrth gyflwyno holiadur.
Am drafodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth a gwahaniaethu ar sail oedran fel oedrannau ymddeol gorfodol, gweler Adnoddau (ar gael yn Saesneg yn unig)
Dim ond yn Saesneg y mae’r straeon newyddion hyn, sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth ac achosion gwahaniaethu ar sail oedran, ar gael.